|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

GWYBOD EICH HAWLIAU

Mae polisi diweddar y Llywodraeth wedi pwysleisio cydraddoldeb a chynhwysiad: mae gan bobl ag anableddau yr un hawl i’w cynnwys yn llawn mewn cymdeithas,. Fodd bynnag, mae trosglwyddo polisi i ymarfer wedi creu rhai heriau a chydnabyddir nad yw pobl ag anghenion cymhleth, yn cynnwys y rhai ag anableddau dysgu difrifiol ac ymddygiad heriol, wedi elwa cymaint ag y dylent.

Yn yr adran ganlynol ceir rhestr o’r “teclynnau” allweddol a ellir eu defnyddio i ddatblygu’r math o gefnogaeth unigolyddol sy’n angenrheidiol i bobl ag anghenion cymhleth.

1. Datganiad ar Bolisi ac Ymarfer i Oedolion gydag Anabledd Dysgu (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007)

Mae hyn yn datgan yn eglur, mewn perthynas ag ymddygiad heriol, y dylai darpariaeth gwasanaeth lleol geisio sicrhau bod pobl yn aros yn eu cartrefi a’u cymunedau lleol:

“Lle mae’n amhosibl cyflawni hyn, efallai bydd angen llety amgen dros dro a chefnogaeth breswyl nes y gallant ddychwelyd adref neu fynd i lety hirdymor newydd yn y gymuned. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn annog awdurdodau i adolygu priodoldeb trefniadau lle mae unigolion wedi cael eu trosglwyddo i wasanaethau y tu allan i’w hardal leol. Fe all trefniadau o’r fath greu anawsterau i deuluoedd gadw cyswllt ac i reolwyr gofal lleol fonitro safonau’r gwasanaeth a ddarperir a’r canlyniadau a gyflawnir.”

2. Strategaeth Gofalwyr Cymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2007)

Mae Strategaeth Gofalwyr Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd gwybodaeth dda i ofalwyr:
- er mwyn iddynt fod yn eiriolwyr gwybodus dros yr unigolyn maent yn gofalu amdano/i
- er mwyn iddynt wybod pa wasanaethau a budd-daliadau sydd ar gael a sut i gael gafael arnynt
- er mwyn iddynt allu trafod a bod yn hyderus ynghylch natur gaffaeladwy gwasanaethau yn ystod trawsnewidiadau cylch bywyd
- er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o’u hawliau a beth sy’n ddyledus iddynt.

Hefyd mae’r Strategaeth Gofalwyr yn datgan y dylai gofalwyr gyfrannu at wneud penderfyniadau unigol a chael dweud eu barn ym mhob agwedd o gynllunio strategol:
- er mwyn iddynt ddod yn bartneriaid cyflawn yn narpariaeth gofal ar gyfer yr unigolyn maent yn gofalu amdano/i
- er mwyn iddynt allu cynrychioli buddiannau’r teulu, yn cynnwys yr unigolyn maent yn gofalu amdano/i
- er mwyn iddynt allu monitro a dylanwadu ar answadd y gwasanaethau a ddarperir
- er mwyn iddynt allu bod yn hyderus bod darpariaeth y gwasanaeth yn ddigonol

3. Cyflawni’r Addewidion (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2001)

Mae ‘Cyflawni’r Addewidion’ yn gosod strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu ac yn nodi pedwar egwyddor allweddol: hawliau, annibyniaeth, dewis a chynhwysiad.

Teclyn allweddol ar gyfer gwella bywydau pobl gydag anableddau dysgu a nodwyd yn ‘Cyflawni’r Addewidion’ yw Cynllun Person-Ganolog (CPG). Mae cynllunio sy’n berson-ganolog yn golygu cychwyn gyda’r unigolyn a gosod cefnogaeth o’u hamgylch fydd yn eu galluogi i gael y bywyd y dymunant. Os nad ydych yn gyfarwydd â chynllunio person-ganolog dylech gymryd amser i ddarganfod mwy oherwydd gall y dull hwn fod yn allweddol i ateb anghenion eich mab / merch. (Gweler pennod 3 am fwy o wybodaeth)

4. Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i Gymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2001)

Mae’r ddogfen hon yn hyrwyddo cysondeb wrth ateb anghenion addysgol arbennig plant ac yn rhoi hawliau plant gydag anghenion addysgol arbennig wrth galon y broses, gan ganiatáu iddynt gael eu clywed a chymryd rhan mewn penderfyniadau ynghylch eu haddysg. Mae Côd Ymarfer AAA yn datgan y dylai pob person ifanc gydag anghenion addysgol arbennig gael cyfarfod cynllunio pontio ym Mlwyddyn 9 (13-14 oed) yr ysgol ac yn flynyddol wedi hynny. Hefyd mae’r Côd Ymarfer yn datgan y dylid trin rhieni fel partneriaid trwy gydol y broses cynllunio pontio ac y dylai’r bobl ifanc ymwneud â gwneud penderfyniadau a gweithredu eu dewis.

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) wedi cynhyrchu Llawlyfr Ymarfer Gorau ar gyfer AAA i gydfynd â’r Côd Ymarfer yng Nghymru. Mae Adran 3 yn archwilio Cyfranogiad Disgyblion ac yn darparu cyngor ar strategaethau defnyddiol. Ceir nifer o ddeunyddiau ac esiamplau o astudiaethau achos yn yr Atodion. Mae ar gael nawr o www.new.wales.gov.uk, ebost assembly-publication@wales.gsi.gov.uk neu ffoniwch 029 2082 3683.