


Y lle gorau i gychwyn yw cynllun person-ganolog (CPG) manwl. Mae CPG yn gofnod parhaus gyda ‘gweledigaeth’ gadarnhaol o sut dylai bywyd fod i’r unigolyn yn ogystal â’r gefnogaeth angenrheidiol i gyflawni, cynnal, gwerthuso ac adolygu’r weledigaeth.
Dylai amrediad o bobl fod yn ymwneud â chreu’r cynllun, yn cynnwys teulu, cyfeillion, staff cefnogol, adfocad a gweithiwr cymdeithasol yn ogystal â’r unigolyn ei hun, a dylid canolbwyntio ar gryfderau, galluoedd a hoffterau’r unigolyn. Gall y cynllun ddelio gyda gwybodaeth ar sut y gellir cefnogi’r unigolyn i gadw’n iach yn ogystal â phwy sy’n bwysig i’r unigolyn a beth a ddymunant ar gyfer y dyfodol yn nhermau tai, cefnogaeth, addysg, cyflogaeth a hamdden.
Mewn cynllunio person-ganolog mae’r broses, yn ogystal â’r cynllun, yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan yr unigolyn (ac ambell waith eu teulu agosaf a ffrindiau).
Am fwy o wybodaeth cyfeiriwch at: Rhwydwaith Cylchoedd Cymru: Ffôn 029 2048 7575, ebost deborah.hill@circlesnetwork.org.uk neu ewch i www.circlesnetwork.org.uk |
Gellir defnyddio’r cynllun i gael y gwasanaethau a’r gefnogaeth sy’n ofynnol gan yr unigolyn. Dylid hefyd adolygu’r cynllun yn rheolaidd ac ychwanegu ato dros amser i’w gadw’n berthnasol a defnyddiol.
Yn y pecyn hwn defnyddir y term pontio i ddisgrifio’r cyfnod pan fydd y person ifanc yn paratoi i fod yn oedolyn, h.y. yn symud o wasanaethau plant i oedolion.
Dylai’r broses o gynllunio pontio gychwyn ym Mlwyddyn 9 (13-14 oed), a chynnwys ystod o bobl yn cynnwys rhieni / gofalwyr teulu a dylid cynllunio’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol er mwyn i’r plentyn gael mynediad i gyfleoedd wrth iddynt ddod yn oedolyn. Dylid cynnal y broses adolygu pontio gan Bennaeth ysgol y plentyn, sydd ganddo/ganddi’r cyfrifoldeb dros ddatblygiad y cynllun pontio, er y gellir dirprwyo hyn. Dylid cwblhau’r cynllun pontio cyntaf yn dilyn adolygiad blynyddol y person ifanc ym mlwyddyn 9, a dylai’r cynllun pontio cyntaf hwn lunio rhan o’i (ch)gynllun person-ganolog cyfan. Dylai cynllun pontio “dynnu gwybodaeth at ei gilydd o ystod o unigolion o fewn a thu
hwnt i’r ysgol er mwyn cynllunio’n ddeallus gyda’r person ifanc ar gyfer y newid i fywyd oedolyn” (Teclyn AAA)
Dylid adolygu cynlluniau pontio yn flynyddol o leiaf a delio gyda holl agweddau dyfodol y person ifanc, gan nodi cryfderau ac anghenion yr unigolyn a chynnwys addysg, hawliau budd-daliadau, cyflogaeth, tai a chyfleoedd cymdeithasol a hamdden, anghenion iechyd a gofal cymdeithasol wrth ddod yn oedolyn. (All Change, Pavilion 2003)
Unwaith y cytunir ar y cynllun pontio dylid ei adolygu’n rheolaidd gan fod “cynllunio pontio yn broses barhaus ac un sy’n esblygu… hefyd gall y cynllun pontio newid a thyfu dros amser”(Teclyn AAA)
Yn y gorffennol ystyriwyd y cynllun pontio ar wahân i gynllun person-ganolog. Fodd bynnag, mae’n gwneud mwy o synnwyr i’w gynnwys mewn cynllun person-ganolog cyfan, sy’n gynllun sy’n esblygu. Mae adolygiadau pontio person-ganolog yn gyfle i bawb i gychwyn meddwl mewn modd person-ganolog yn gynnar yn y broses, i sicrhau bod y person yn cael y gefnogaeth mae arno/arni ef/hi ei hangen i gyflawni’r bywyd a ddymunant, yn hytrach na “ffitio’r person i mewn” i beth sydd ar gael yn bresennol.
Mae proses adolygu Pontio Person-Ganolog yn argymell bod adolygiadau Blwyddyn 10 (14-15 oed) yn edrych ar bump “allwedd i ddinasyddiaeth”:
Y pwyntiau allweddol i’w cofio pan fyddwch yn ceisio cefnogi gwasanaethau unigolyddol lleol neu gefnogaeth ar gyfer aelod eich teulu yw:
1. Anelwch yn uchel. Ystyriwch beth fyddai sefyllfa “ddelfrydol” i’ch mab/merch. Efallai na wireddir pob agwedd o’r weledigaeth hon, ond gwireddir rhai.
2. Adnabod pobl sydd ar eich ochr chi a all eich helpu a’ch cefnogi. (Mae’r Challenging Behaviour Foundation – CBF - yn un!)
3. Meddwl yn greadigol. Peidiwch â derbyn mai’ch unig ddewis yw’r hyn sydd ar gael yn bresennol.
4. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os dewch ar draws rhwystrau – gellir goddiweddyd rhwystrau.
5. Darganfod beth mae teuluoedd eraill wedi’i wneud. Mae llawer o deuloedd sy’n adnabyddus i’r CBF yn fodlon rhannu eu profiadau a gallant roi mewnwelediad gwerthfawr i sut i wneud i bethau ddigwydd.
P’un ai ydych chi’n wynebu pontio neu’n ceisio newid gwasanaethau neu gefnogaeth ar gyfer eich mab neu’ch merch, gwyddom ei bod yn gallu bod yn broses hir ac anodd. Bydd adegau pan fyddwch yn symud ymlaen ac eraill pan fydd unrhyw ddatblygiadau yn araf iawn – ac efallai y bydd yn teimlo’n haws i ‘aros yr un fath’ na cheisio newid pethau. Peidiwch â rhoi’r gorau iddi! Gofynnwch am help os bydd angen. Yn y CBF rydym yn gwybod pa mor anodd y gall fod ac fe wnawn y cwbl a allwn i’ch cefnogi chi.
Cofiwch: nid yw byth yn rhy gynnar i gychwyn – a nid yw hi byth yn rhy hwyr i newid er gwell!