


Gall unigolion gydag anabledd dysgu difrifol ac ymddygiad heriol, gyda’r gefnogaeth ac addasiadau cywir, fyw’n llwyddiannus mewn ystod o dai, yn cynnwys eiddo hunangynhwysol unigol, rhwydweithiau tai, tai grwp a chynlluniau rhannu llety, a gallant elwa o ystod lawn o opsiynau, o rentu i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.
Mae’n debyg mae’r penderfyniad mwyaf y bydd yn rhaid i chi ei wneud fydd dewis ai cartref gofal cofrestredig neu byw â chymorth fydd yr opsiwn gorau i’ch mab/merch. Mae cartref gofal preswyl yn darparu pecyn cyflawn o lety a gofal, tra bo Byw â Chymorth yn gynllun lle darperir y llety ar wahân i ofal cefnogol. Gwelir prif fanteision ac anfanteision y naill a’r llall isod:
Tan yn weddol ddiweddar, yr unig opsiwn, fwy neu lai, ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol, yn hytrach na byw gyda’u teuluoedd, oedd cartref gofal preswyl. Dull cyffredin i awdurdodau lleol oedd i chwilio am gartref preswyl oedd yn bodoli eisoes, gyda lle gwag ac a oedd yn fodlon cymryd yr unigolyn.
Mae lleoliad cartref gofal preswyl yn darparu gwasanaeth “cyflawn”, yn cynnwys llety a chefnogaeth gofal. Manteision hyn yw:
Mae anfanteision y math hyn o wasanaeth yn cynnwys:
Mae’r diwylliant hwn o “ffitio’r person i’r hyn sydd ar gael” yn newid yn raddol. Mae darparwyr cartref gofal preswyl blaengar yn llawer mwy hyblyg a pherson-ganolog nag oeddent yn y gorffennol.
Os ydych yn ystyried lleoliad cartref gofal preswyl i’ch mab / merch, dylech gael copi o’r cytundeb gyda’r awdurdod lleol i sicrhau eich bod yn ymwybodol o beth a ddarperir, ynghyd â’r copi diweddaraf o adroddiad archwiliad yr Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru.
Mae Byw â Chymorth yn ddull unigolyddol i alluogi pobl i ddewis ble hoffent fyw, sut yr hoffent fyw a phwy sy’n eu cefnogi. Mae Byw â Chymorth yn golygu bod llety’r unigolyn ar wahân i’w cefnogaeth gofal.
Mae manteision y dull hwn yn cynnwys:
Mae anfanteision y dull hwn yn cynnwys:
Opsiynau Tai: www.housingoptions.org.uk, ffôn 0845 4561497 neu ebost enquiries@housingoptions.org.uk (mae taflenni gwybodaeth ar gael) |
Mae’r Challenging Behaviour Foundation wedi gweithio mewn partneriaeth ag eraill i ddatblygu llwybr newydd ar gyfer pobl ifanc gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol. Mae’r model gwasanaeth hwn yn ddyfeisgar oherwydd y bartneriaeth gyda’r coleg Addysg Bellach lleol, y gall unigolion fynychu o ddydd i ddydd. Mae iddo Fwrdd Rheoli sydd â phartneriaid o ystod o gyfundrefnau yn cynnwys rhiant, sefydliadau gwirfoddol, Cymdeithas Dai, darparwr gofal, rheolwyr a chomisiynydd awdurdod lleol ac ymchwilwyr o Ganolfan Tizard Prifysgol Caint. Y Bwrdd Rheoli sy’n goruchwylio rheolaeth y gwasanaeth a’i ddatblygiad.
Mae’r gwasanaeth arbenigol hwn ar gyfer pedwar myfyriwr rhwng 16 a 25 oed oedd, yn flaenorol, wedi eu lleoli allan o’u hardal leol mewn gwasanaethau arbenigol, rhyw 200 milltir o bellter o’u teuluoedd. Fe’i crewyd i alluogi’r pedwar myfyriwr hwn i ddychwelyd i’w milltir sgwâr, i gwblhau cwrs addysg bellach ac i alluogi datblygu cynllunio ar gyfer llety hirdymor yn unol ag anghenion unigol. Mae’r gwasanaeth yn berson-ganolog: fe’i dyluniwyd yn unswydd o amgylch anghenion yr unigolion sy’n ei ddefnyddio. Ceir mewnbwn arbenigol gan broffesiynolwyr profiadol ynghylch materion ymddygiad heriol, gyda ffocws ar ddeall ymddygiadau, ac ymateb yn briodol mewn ffordd person-ganolog. Mae i’r gwasanaeth ddwy ffynhonnell arian: o’r awdurdod lleol am y gydran gofal preswyl, a’r Cyngor Sgiliau a Dysgu Lloegr am y gydran addysg, ond mae’n wasanaeth cyflawn, gydag amcanion, hyfforddiant a dysgu yn gyffredin.
Tra datblygwyd y gwasanaeth arbenigol hwn fel gwasanaeth pontio i gynnwys darpariaeth coleg, gellid defnyddio’r llwybr i sefydlu unrhyw wasanaeth i oedolion.
Mae adolygiad o’r camau a gymerwyd gan y CBF i ddatblygu’r model gwasanaeth newydd hwn, a ysgrifennwyd gan Steve Easter, Tîm Datblygu Cenedlaethol, yn cynnwys argymhellion a phwyntiau dysgu allweddol. Mae crynodeb byrrach hefyd ar gael. Mae copïau o’r adroddiad a DVD ynghylch sefydlu’r gwasanaeth ar gael o’r CBF.
Gallai’r model hwn weithio’n dda i chi os ydych chi’n adnabod nifer fach o unigolion yn lleol gydag anghenion tebyg i’ch mab neu’ch merch chi. Os y credwch mai hwn yw’r llwybr i chi yna hoffai’r CBF glywed gennych – cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion ar ddiwedd y pecyn hwn.
Mae gan unigolyn ag anableddau dysgu difrifol yr un hawliau â phawb arall i barhau â’u haddysg. Mae colegau preswyl arbenigol ar gael i bobl hyd at 25 oed. Dylai addysg bellach ac addysg oedolion fod ar gael ar ôl 25 oed.
Mae nifer o golegau preswyl arbenigol sy’n darparu llety, cefnogaeth ac addysg ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu dan 25 oed. Efallai bydd lleoedd mewn colegau arbenigol yn cael eu hariannu gan Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, os nad yw’r addysg neu’r gefnogaeth sy’n angenrheidiol, ar gael yn y Coleg Addysg Bellach lleol.
Cymdeithas Colegau Arbenigol: ewch i www.natspec.org.uk neu ffoniwch 01509 814827 Sgil Cymru: ewch i www.skill.org.uk neu ffoniwch 0800 328 5050 Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: ewch i www.new.wales.gov.uk neu ffoniwch 0845 010 3300 |
Ar hyn o bryd mae’n parhau i fod yn anodd yn ymarferol i sicrhau bod oedolion gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol yn cael mynediad i addysg bellach ac addysg oedolion. Os y’i nodir yn nghynllun person-ganolog yr unigolyn bod angen i’r person hwnnw gael mynediad i addysg oedolion, dylai coleg neu brifysgol leol fod yn barod i sefydlu cwrs perthnasol os nad oes un yn rhedeg eisoes ac os gellir dangos bod gofyn am gwrs felly. Efallai bydd rhaid i’r unigolyn dalu i fynychu’r cwrs, a bydd rhaid nodi ffynonellau cyllido.
Mae llawer o bobl gydag anableddau dysgu eisiau cael swydd a theimlant fod bod yn rhan o sefydliad a chyfrannu at y gymuned leol fel hyn yn werth chweil. Dylid ystyried cryfderau, galluoedd ac anghenion cefnogaeth yr unigolyn pan yn chwilio am gyflogaeth, ac mae gan gyflogwyr gyfrifoldeb i wneud ‘addasiadau rhesymol’ i groesawu pobl gydag anableddau, yn cynnwys anableddau dysgu.
Lle da i ddechrau fyddai gyda’r ganolfan byd gwaith leol oherwydd bod ganddynt gynlluniau i gefnogi pobl i mewn i gyflogaeth a gallant gynnig cyngor ar sut bydd cyflogaeth yn gallu effeithio ar fudd-daliadau’r unigolyn. Gweler www.jobcentreplus.gov.uk neu cewch fanylion yn eich swyddfa agosaf neu’r llyfr ffôn. Mae sefydliadau eraill megis Mencap Cymru, Cymdeithas Genedlaethol Cyflogaeth â Chefnogaeth www.afse.org.uk hefyd yn cynnig cefnogaeth i ddod o hyd i a chadw gwaith.
Efallai byddai dull a adwaenir fel ‘cerfio swydd’ yn ddull cynorthwyol i unigolion gydag anableddau dysgu difrifol. Gyda dull ‘cerfio swydd’ asesir yr unigolyn a nodir a defnyddir eu cryfderau, galluoedd a’u diddordebau i feddwl am y math o swydd y byddai’r unigolyn yn ei mwynhau a pha gefnogaeth neu addasiadau fyddai’n angenrheidiol i’w galluogi i’w chyflawni. Efallai bod hon yn swydd sy’n bodoli eisoes y gallai’r unigolyn ei gwneud gyda chefnogaeth neu efallai ei bod yn rôl newydd wedi ei chreu gyda’r unigolyn yna mewn golwg. Gellir gwneud hyn mewn cydweithrediad â chyflogwr penodol fydd wedyn yn cefnogi’r unigolyn wrth gyflawni’r rôl. Defnyddiwyd y dull hwn yn llwyddiannus yn America am sawl blwyddyn a gwelwyd unigolion trwy swyddi wrth iddynt ennill hyder a sgiliau.