|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

BETH NESAF?

Amcan y Challenging Behaviour Foundation yw i weithio’n agos gyda rhieni / gofalwyr a phroffesiynolwyr / comisiynwyr er mwyn hybu a datblygu cefnogaeth a gwasanaethau bach, unigolyddol, lleol o ansawdd uchel ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol.

Rydym yn awyddus i weithio gydag aelodau’r teulu sy’n ofalwyr, comisiynwyr a phroffesiynolwyr sydd am gyflawni canlyniadau gwell ar gyfer unigolion gydag ymddygiadau heriol a’u teuluoedd a’u gofalwyr, gan hwyluso cydraddoldeb mynediad i addysg brif-ffrwd lleol (i’r rhai dan 25 oed) a’r gallu i gymryd rhan yn y gymuned ehangach yn lleol.

Mae’r ffyrdd y gallwn ni helpu yn cynnwys:

NODER: oherwydd bod ein adnoddau a’n staff yn gyfyngedig efallai na fyddwn yn gallu ymateb i bob cais am gefnogaeth unigol ond fe wnawn y gorau y gallwn. 

Cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen ymateb i roi gwybod inni beth fyddai’r ffordd fwyaf ymarferol i’ch cefnogi chi.

Gobeithiwn bod y pecyn gwybodaeth hwn wedi bod o gymorth i chi ac os byddech yn gallu cymryd munud neu ddau i gwblhau’r ffurflen holiadur adborth bydd hyn yn helpu sicrhau y bydd cyfrolau’r pecyn hwn yn y dyfodol mor ddefnyddiol â phosibl.

Diolch am eich cymorth.

Y Challenging Behaviour Foundation