|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

GWYBOD PWY ALL HELPU

Mae ystod o bobl fydd ar gael i roi cyngor i chi.  Bydd unrhywrai o’r rhain yn bwynt cychwynnol i’ch tywys at ffynonellau cefnogaeth.

Mae sefydliadau gwirfoddol yn darparu ystod o wybodaeth, cefnogaeth a chyngor, (e.e. SNAP Cymru, Mencap Cymru, Pobl yn Gyntaf Cymru), ac mae rhai’n rhoi gwybodaeth mwy arbenigol ar gyfer pobl ag anghenion penodol.

Ym mhennod 10, ceir esboniad o’r gefnogaeth benodol mae’r Challenging Behaviour Foundation yn ei ddarparu ar gyfer teuluoedd sy’n gofalu am feibion / merched gydag anableddau dysgu difrifol a ddisgrifir fel rhai ag ymddygiad heriol.

Mae broceriaeth yn ffordd i helpu pobl i dramwyo’r system gofal cymdeithasol.

Mae brocer cefnogol yn berson annibynnol gydag hyfforddiant i gydlynu’r broses o drefnu a chynnal pecyn cefnogaeth ar gyfer unigolyn.  Trwy froceriaeth gellir helpu pobl i gael gafael ar, i gael cyllid, ac i dderbyn y gofal a’r gefnogaeth mae arnynt ei angen, neu gall eich helpu i wybod sut gellir ateb yr anghenion hyn a beth fyddai’r gost.  Mae broceriaeth yn sicrhau bod yr unigolyn yn cymryd rhan yn llawn ac yn rheoli dewis eu pecyn gofal a’i ddosbarthiad.  Ni chymerir i ystyriaeth a yw pobl yn ariannu eu gofal eu hunain neu a ydynt yn cael cefnogaeth gan eu cyngor mewn rhyw ffordd.

Gellir darparu broceriaeth gan bobl gyda hyfforddiant penodol ac sydd wedi eu cyflogi fel broceriaid, neu gan aelodau o deulu’r unigolion neu eu ffrinidau fydd yn gwneud y rôl yn ddi-dâl.  I gael gwybodaeth am y gwasanaethau yn eich ardal leol, cysylltwch â’r Rhwydwaith Broceriaeth Cenedlaethol trwy eu gwefan www.nationalbrokeragenetwork.org.uk neu ffoniwch 01279 504735.

Cefnogaeth pontio

Bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol neu’r Rheolwr Gofal yn berson allweddol a all gydlynu’r broses a sichrau bod pawb sy’n ymwneud â hyn yn cael eu cynnwys.  Gallant roi gwybodaeth i chi am wasanaethau a chefnogaeth lleol.

Mewn rhai ardaloedd mae Gweithwyr Pontio sy’n anelu at ddarparu ystod o gefnogaeth yn cynnwys cyngor i rieni.  Efallai bydd eich gweithiwr pontio lleol yn gweithio i’r tîm cefnogi plant a theuluoedd yn eich ardal, y tîm oedolion neu’r tîm pontio o fewn y Gwasanaethau Cymdeithasol, a dylent sicrhau bod cyfathrebu da rhwng timau plant ac oedolion.

Mae gan Gyrfaoedd Cymru ddyletswydd cyfreithiol i sicrhau bod pob person ifanc sy’n byw yng Nghymru, sydd ag anhawster i symud i addysg bellach neu hyfforddiant, yn derbyn asesiad o’u hanghenion a’r ddarpariaeth yn y dyfodol yn ystod eu blwyddyn olaf yn yr ysgol.  Mae chwe chwmni Gyrfaoedd Cymru yng Nghymru a bydd un yn y rhanbarth ble rydych chi’n byw.  Bydd yn rhaid i Gyrfaoedd Cymru gynhyrchu adroddiad ysgrifenedig o anghenion addysg a hyfforddiant yr unigolyn a’r gwasanaethau sy’n ofynnol i ateb yr anghenion hyn.  Trosglwyddir y cynllun hwn, gyda chaniatâd y person ifanc, i ddarparwr newydd y gwasanaethau.