|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

RHAGYMADRODD

Yn y Challenging Behaviour Foundation rydym yn aml yn clywed gan rieni sy’n pryderu ynghylch dioglewch eu meibion a’u merched yn y dyfodol.  P’un ai os byddant yn gadael gwasanaethau plant ac yn symud i wasanaethau oedolion neu eu bod eisoes ar leoliad oedolion ond nid yw’n addas ar eu cyfer neu bod y lleoliad ar fin torri i lawr, yn aml ymddengys nad oes gwasanaethau yn lleol sy’n gallu ateb eu hanghenion.  Yn aml mae teuluoedd yn cael cynnig lleoliadau allan o’u hardal sydd efallai rai cannoedd o filltiroedd i ffwrdd o’u perthnasau a’u cymuned, ac efallai na fyddant yn gallu cymryd mantais o gyfloedd bywyd y mae’r rhan fwyaf o oedolion yn eu cymryd yn ganiataol, megis cyrsiau coleg neu gyflogaeth.

Fodd bynnag, mae opsiwn arall.  Lleolwyd fy mab, Daniel ers iddo fod yn 9 mlwydd oed mewn ysgol breswyl dros 250 o filltiroedd i ffwrdd gan nad oedd gwasanaethau lleol ar gael i ddelio gyda’i ymddygiad heriol.  Wrth iddo ddynesu at newid i wasanaethau i oedolion dechreusom ofyn pam na fedrem gael gwasanaethau arbenigol yn agos at ei deulu.  Mae Daniel nawr yn 21 oed.  Mae’n byw llai na 5 milltir o’n cartref.  Mae ei wasanaeth newydd yn darparu llety, cefnogaeth a chwrs coleg Addysg Bellach.

Roedd gwasanaeth pontio Daniel yn gynnyrch llawer o waith caled ac ymdrech.  Rydym nawr yn cychwyn y broses o ddatblygu gwasanaeth oedolyn yn arbennig ar ei gyfer ond nid ydym yn disgwyl y bydd hyn yn gyflym nac yn hawdd.  Ond mae’n rhaid inni hwyluso’r prosesau i ddatblygu cefnogaeth a gwasanaethau unigol lleol.  Gwybodaeth yw’r allwedd a rhoddwyd y pecyn hwn at ei gilydd fel nad ydych chi’n gorfod gwneud hyn ar eich pen eich hun.

Dylai rhieni plant neu oedolion gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol fod yn gallu wynebu’r dyfodol gan wybod bydd anghenion cefnogaeth eu meibion a’u merched yn cael eu diwallu ac y bydd eu dyfodol yn ddiogel ac yn gyflawn.  Mae cefnogaeth a gwybodaeth ar gael i’ch helpu chi i gyflawni hyn i’ch mab neu’ch merch.

 

Vivien Cooper
Mam Daniel
a Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr
Y Challenging Behaviour Foundation