|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

AMDDIFFYNFEYDD A DIOGELU’R UNIGOLYN

Mae unigolion gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol yn gallu bod yn destun camdrin.  Gall y camdrin fod â sawl ffurf, o’r amlwg e.e. camdrin corfforol, i’r llai amlwg e.e. camdrin ariannol neu emosiynol.  Cynyddir y risg oherwydd:

Felly mae’n hanfodol bod y gwasanaethau a chefnogaeth yr unigolyn gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol yn berson-ganolog ac yn deall pam fo unigolyn yn ymddwyn fel y mae.

Mae gan wahanol ddarparwyr gwasanaethau wahanol ddulliau i reoli ymddygiad heriol.  Mae’n bwysig eich bod yn darganfod beth yw’r dull a ddefnyddir gan unrhyw wasanaeth yr ydych yn ystyried ei ddefnyddio trwy ofyn am gopi o’r polisi rheoli ymddygiad cyn i chi gytuno ei fod yn addas ar gyfer eich mab / merch.

Dylai fod gan y gwasanaethau fecanwaith monitro priodol wedi ei sefydlu i leihau’r risg o gamdrin, i ddarganfod camdrin posibl ac i amlygu arwyddion o gamdrin o fewn y mathau o ymddygiad sy’n bodoli eisoes.  Yn ogystal, gellir gosod amddiffynfeydd eraill i ddiogelu’r unigolyn.

Gofynion statudol 

1. Polisïau a threfnweithiau

Dylai’r polisïau a’r trefnweithiau canlynol fod yn eu lle a chopïau ar gael ond i chi ofyn:

Yn ogystal, dylid cael trefnwaith cwyno eglur.  Dylid archwilio cwynion yn ffurfiol a gweithredu ar y casgliadau.

2. Monitro ac arolygu 

Mae pob gwasanaeth yn cael ei arolygu gan asiantaethau i sicrhau bod trefnweithiau cywir yn eu lle i ddiogelu unigolion bregus.  Y prif asiantaethau arolygu yw ASGC (Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru), Estyn (Prif Arolygwr Ei Mawrhydi mewn Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru) a CIC (Comisiwn Iechyd Cymru).

3. Arolygu staff (Cynllun Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed)

Sefydlwyd cynllun Amddiffyn Oedolion Agored i Niwed (AOAN) yn 2004 ac mae’n cynnwys rhestr lle gellir gwirio pobl sy’n gweithio gydag oedolion sy’n agored i niwed yn ei erbyn.  Dylid cyfeirio unigolion at, a’u cynnwys ar y rhestr AOAN os ydynt wedi camdrin, esgeuluso, neu niweidio oedolion sy’n agored i niwed yn eu gofal neu wedi achosi oedolion sy’n agored i niwed i fod mewn perygl o niwed.  Trwy wneud gwiriadau statudol yn erbyn y rhestr ni all darparwyr gofal gynnig gwaith i unigolion felly mewn swyddi gofal.  Mae gwiriadau AOAN yn ofynnol fel rhan o’r Datgeliadau o’r Ganolfan Cofnodion Troseddol.

Amddiffynfeydd eraill 

Yn y gorffennol, mae pobl gydag ymddygiad heriol a gafodd gynnig wasanaeth cyflawn (llety a chefnogaeth) gan ddarparwr gwasanaethau, wedi bod yn agored i’w diarddel os cwyd problemau.  Gallai hyn olygu y rhoddir rhybudd i’r unigolyn i adael y gwasanaeth.  Fodd bynnag, os yw darpariaeth llety ar wahân i ddarpariaeth gofal, gall yr unigolyn aros yn eu cartref a gellir newid y darparwyr gofal os bydd angen.  Mae’r sefyllfa hon yn galluogi’r unigolyn i gael mwy o reolaeth dros ei (b)fywyd.

Adfocad yw rhywun sy’n helpu i hysbysu beth yw dymuniadau a safbwynt unigolyn, ac yn aml mae teuluoedd yn adfocatiaid grymus ar ran aelod o’u teulu.  Fodd bynnag, efallai bydd gwrthdrawiadau buddiannau ar brydiau ac ambell waith ni fydd y gofalwr teulu’n ymwybodol o’r cyfleoedd sydd ar gael.  Mae adfocatiaeth annibynnol yn addo i fod yn ffordd effeithiol i helpu’r person gydag anabledd dysgu i gael “llais” cryfach a dylech holi am y gwasanaethau adfocatiaeth yn eich ardal.

Fodd bynnag, mae’n bwysig nodi bod adfocatiaeth ar ran rhywun gydag anableddau dysgu difrifol a ddisgrifir fel rhywun ag ymddygiad heriol yn rôl â sgil ac yn gofyn am lawer o amser, ymroddiad ac arbenigedd i’w gwneud yn effeithiol.  Cysylltwch â’r Challenging Behaviour Foundation i sicrhau bod unrhyw adfocad annibynnol sy’n gweithio gyda’ch mab / merch yn derbyn gwybodaeth arbenigol ac adnoddau er mwyn iddynt gyflawni eu rôl. 

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i bawb sydd dros 16 oed ac

Mae mwy o wybodaeth ar gael o www.publicguardian.gov.uk neu ffoniwch 0845 330 2900. Mae llyfryn am ddim ar gael (“Making decisions: a guide for family, friends and other unpaid carers”).

Os yw eich mab / merch dros 16 oed mae’n ddyletswydd arnoch i sicrhau ystyried ei (d)dymuniadau ef/hi ac, er enghraifft, y defnyddir dulliau cyfathrebu ffafriedig i esbonio’r broses a’r opsiynau sydd ar gael. Os nad oes gan eich mab / merch y gallu, mae’n ddyletswydd arnoch i gysylltu ag aelodau’r teulu, a rhaid gwneud unrhyw benderfyniad er lles yr unigolyn.

Mae’r ddeddf yn cyflwyno dwy drosedd newydd:

• Camdrin unigolyn sydd heb alluedd
• Esgeulustod bwriadol o unigolyn sydd heb alluedd

Gall y troseddau fod yn berthnasol i unrhywun sy’n gofalu am unigolyn sydd heb alluedd, yn cynnwys y teulu, staff iechyd, gofal cymdeithasol, ysbyty neu ofal yn y cartref, Twrneiod neu Ddirprwyon.

• Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid

Dylid gofalu am bobl gydag anableddau dysgu difrifol mewn dulliau sy’n hyrwyddo eu hannibyniaeth, eu lles a’u dewis. Fodd bynnag, amddifedir pobl gydag anableddau dysgu difrifol neu ddwys o’u rhyddid er mwyn iddynt gael triniaeth neu ofal oherwydd bod hyn yn hanfodol er eu lles i’w diogelu rhag niwed.

O Ebrill 1af 2009 sefydlir amddiffyniadau newydd i ddiogelu unigolion sy’n agored i niwed rhag eu hamddifadu o’u rhyddid yn ddiangen. Rhaid i ysbytai a chartrefi gofal sy’n gofalu am unigolyn mewn dull sy’n ei amddifadu o’i ryddid ofyn am asesiad i benderfynu a yw’n iawn i gymryd rhyddid yr unigolyn hwnnw.