|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

DEALL Y CYLLIDO

Mae polisi diweddar y llywodraeth wedi newid i alluogi pobl anabl a’u teuluoedd i gael mwy o reolaeth dros yr arian sy’n darparu gofal a chefnogaeth, ac mae nifer o gyfleoedd ar gael, megis taliadau uniongyrchol a thaliadau anuniongyrchol.

Taliadau uniongyrchol

Pan fydd yr Awdurdod Lleol yn asesu bod anghenion person yn ddigonol i dderbyn gwasanaeth a bod cytundeb ar yr arian fydd yn ateb yr anghenion hynny, gall y person ddewis cymryd yr arian gan yr Awdurdod Lleol yn uniongyrchol yn hytrach na chael yr Awdurdod i drefnu’r gwasanaeth. Y person sy’n cymryd cyfrifoldeb dros drefnu a rheoli’r dull y diwellir eu hanghenion. Gall hyn olygu cyflogi cynorthwywyr yn uniongyrchol (a adwaenir fel ‘cynorthwywyr personol’ fel arfer) neu trwy gael cytundeb gydag asiantaeth. Hefyd disgwylir i’r person gadw cofnodion ar gyfer monitro ac archwiliad gan yr Awdurdod Lleol i ddangos bod y cyllid uniongyrchol (hynny yw ‘Taliadau Uniongyrchol’) wedi ei wario’n briodol.

Mantais cynllun o’r fath yw y gall person ddylunio’r gefnogaeth sydd arno ei hangen i weddu i’w hoffterau ei hun a dewis pwy fydd yn rhoi’r gefnogaeth yna. Yr unigolyn sy’n rheoli. Tra’i bod yn angenrheidiol i’r person gytuno â’r opsiwn hwn, nid oes rhaid iddynt reoli na rhedeg y cynllun ei hunain ond gallant enwebu rhywun neu rywrai eraill i edrych ar ôl y ‘busnes’ o ddydd i ddydd. Unwaith bydd hyn yn ei le, mae gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud Taliadau Uniongyrchol.

Mae gwasanaethau cefnogol ar gael i gynorthwyo unigolion a’u teuluoedd ar hyd y llwybr o ymchwilio i’r opsiwn hwn (cysylltwch â’ch awdurdod lleol). Mae help hefyd ar gael gyda recriwtio, cyllidebu, rhestr gyflogi a monitro.

Am fwy o wybodaeth:

Taliadau Anuniongyrchol

Pan nad oes gan unigolyn y gallu i gydsynio (gweler y blwch ar y dudalen nesaf) i Daliadau Uniongyrchol, gall yr Awdurdod Lleol gytuno bod yr arian ar gael i drydydd person.

Gall yr Awdurdod Lleol gytuno i roi’r arian i Ymddiriedolaeth neu i Ddirprwy a apwyntiwyd gan y Llys Gwarchod.

Ymddiriedolaeth yw grwp o dri unigolyn, o leiaf, sef yr ‘ymddiriedolwyr’ fydd yn berchen ar ac yn rheoli arian a/neu eiddo er lles unigolyn arall. Cymer yr ymddiriedolwyr gyfrifoldeb dros drefnu, rheoli a monitro cronfeydd ar ran yr unigolyn nad sydd ganddo/ganddi’r gallu i dderbyn a rheoli taliad uniongyrchol. Bydd yr ymddiriedolwyr yn agor cyfrif banc yn enw’r Ymddiriedolaeth i dderbyn taliadau ac mae ganddynt rwymedigaethau cyfreithiol i’w cyflawni. Gall yr ymddiriedolwyr ond gweithredu’n gytun ac yn unfrydol wrth wneud penderfyniadau ynghylch y cronfeydd ymddiriedolaeth hynny.

• Gall dirprwy (fel arfer aelod o’r teulu) wneud cais i’r Llys Gwarchod i gael ei apwyntio fel dirprwy i’r unigolyn. Mae’r Llys Gwarchod yn gwneud penderfyniadau ac yn apwyntio driprwyon i wneud penderfyniadau er budd y bobl sydd heb y gallu i wneud hynny. Gwneir penderfyniadau mewn dau faes; eiddo a materion ariannol a materion lles personol. Unwaith yr apwyntir dirprwy gall wneud penderfyniadau penodol cyfredol fel a bennwyd gan y Llys ar ran yr unigolyn sydd heb y gallu i wneud hynny e.e. rheoli cyfrif banc, arwyddo ffurflenni tenantiaeth / morgais ac ati.

Am fwy o wybodaeth ar “Ddirprwyon” a’r “Llys Gwarchod” yn cynnwys llyfrynnau gwybodaeth a ffurflenni cais cysylltwch â The Office of the The Public Guardian www.publicguardian.gov.uk  Ffôn: 0845 330 2900

Er nad oes gan yr Awdurdod Lleol ddyletswydd i wneud Taliadau Anuniongyrchol, bydd yn ystyried yr opsiwn hwn os na fydd yn bosibl i ddefnyddio Taliadau Uniongyrchol. Mae’r mater hwn yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae’r Adran Iechyd yn edrych ar sut y gallant gynyddu’r nifer o bobl sy’n cael Taliadau Uniongyrchol.

Gallu i gytuno

Ceir cytundeb pan mae rhywun yn cytuno gyda rhywbeth mae rhywun arall yn ei gynnig.  Er mwyn i gytundeb fod yn gyfreithiol a chywir, mae’n rhaid i’r un sy’n cytuno fod â gallu meddyliol digonol i ddeall goblygiadau a’r canlyniadau posibl o’i (g)weithredoedd hi/ef.  Mewn achosion lle bernir nad oes gan yr unigolyn y gallu i gytuno, gall grwp o bobl ymroddgar o ystod o gefndiroedd (e.e. iechyd, addysg, gwasanaethau cymdeithasol, teulu, adfocad) ddod at ei gilydd a thrafod y mater a sut i weithredu er lles yr unigolyn, ac yna gwneud penderfyniad ar eu rhan.

Mae ‘Deddf Galluedd Meddyliol’ (2005) yn ddeddf newydd sy’n datgan sut y diogelir pobl sydd methu gwneud penderfyniadau a sut y gall pobl eraill weithredu ar eu rhan.  Rhoddir esboniad mwy manwl o’r Ddeddf Galluedd Meddyliol ym Mhennod 9.

Cronfa Byw’n Annibynnol

Sefydlwyd Cronfa Byw’n Annibynnol fel adnodd cenedlaethol sy’n rhoi cefnogaeth ariannol i bobl anabl i’w galluogi i ddewis byw yn y gymuned yn hytrach na mewn gofal preswyl. Rhoddir dyfarniadau i unigolion ar ffurf taliadau rheolaidd pob pedair wythnos a ddefnyddir i brynu gofal personol yn y gymuned. Gall y derbynwyr ddefnyddio asiantaethau gofal neu gyflogi cynorthwywyr personol, ond ni allant gyflogi perthnasau sy’n byw yn yr un ty. Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0845 601 8815, ebost funds@ilf.org.uk neu ewch i www.ilf.org.uk

Grant Cyfleusterau i’r Anabl

Gall unigolyn gydag anabledd sy’n berchen ar y ty mae’n byw ynddo, neu sy’n denant, fod yn gymwys i dderbyn Grant Cyfleusterau i’r Anabl tuag at gostau darparu addasiadau a chyfleusterau i alluogi’r unigolyn anabl i barhau i fyw yno. Rhoddir grantiau o’r fath gan gynghorau lleol dan Ran 1 Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996. Cysylltwch â’ch adran Dai neu Iechyd yr Amgylchedd yn eich cyngor lleol am fwy o wybodaeth, neu gofynnwch am y llyfryn ‘Disabled Facilites Grant’ o 0870 122 6236 neu ebostiwch communities@twoten.com

Cyflogaeth

Gall cyflogaeth effeithio ar fudd-daliadu mae’r unigolyn yn ei dderbyn ac mae rheoliadau ynghylch y math a’r nifer o waith y gall rhywun ei wneud heb ddioddef yn ariannol. Gall y Ganolfan Waith roi mwy o wybodaeth am y rheoliadau, ewch i’w gwefan www.jobcentreplus.gov.uk neu ffoniwch eich swyddfa leol (ceir y rhifau yn y llyfr ffôn).