|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

Gwybod beth yw'r heriau

Cytunir yn gyffredinol ei bod yn bwysig i sicrhau bod y broses o ddatblygu gwasanaethau priodol i oedolion wedi ei gynllunio‘n dda a’i reoli’n ofalus ac yn dwyn at ei gilydd yr holl rhanddalwyr sydd â diddordeb yn yr unigolyn.  Fodd bynnag, gall hyn fod yn broses gymhleth, yn enwedig i bobl ag anghenion heriol.  Mae llawer o resymau am hyn, ac yn y tabl isod gwelir rhai o’r anawsterau mwyaf cyffredin y gallech eu hwynebu – gyda rhai o’r allweddau i ddelio gyda phob problem yn y golofn dde.

Y “broblem” Yr ateb
 Dull “ffitio’r person i’r hyn sydd ar gael” yn hytrach na dull person-ganolog. Byddwch yn dod ar draws pobl sy’n credu fel hyn oherwydd maent yn ei ystyried yn opsiwn “haws”.  OND – dylid herio hyn: mae llawer o enghreifftiau o ddull person-ganolog sydd wedi golygu gwella ansawdd bywyd uniglion gydag anghenion cymhleth
 Diffyg dewis addas o dai presennol
 OND – mae nifer o sefydliadau a all gynghori ar ystod gwahanol o dai.  Ewch i www.housingoptions.org.uk, ffôn 0845 4561497 neu ebostiwch enquiries@housingoptions.org.uk
 Diffyg cefnogaeth digonol i gael mynediad i gyfleoedd Addysg Bellach
 OND – mae gan bobl ag anableddau yr un hawliau â phawb arall i addysg barhaol. Mae Cyngor Cyllido Addysg Bellach Cymru wedi bod yn gweithio gydag ystod o golegau ac asiantaethau i geisio sicrhau yr asesir anghenion myfyrwyr gydag anawsterau deallusol yn ofalus gan gynhyrchu rhaglenni i ateb eu hanghenion unigol. Gofynnwch beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.
 Diffyg cyfleoedd addas yn ystod y dydd
 OND – trwy ddefnyddio cyllid unigolyddol a thaliadau uniongyrchol gellir cefnogi pobl i gael mynediad i gyfleusterau cymunedol a chyfleoedd cyflogaeth (gweler pennod 8)
 Diffyg dewis addas o gyfleoedd cefnogi gofal  OND – mae nifer o ffyrdd i ddelio â hyn: bydd llawer o sefydliadau sy’n darparu gofal yn gweithio gyda chi i ddod o hyd i atebion hyblyg a pherson-ganolog, neu gallwch gyflogi eich staff eich hun gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol (gweler pennod 8)

Lleoliadau allan o’r ardal

Os nodwyd bod unigolyn yn arddangos ymddygiad heriol, mae’n debygol y bydd ef/hi’n cael anhawster i gael mynediad i lawer o wasanaethau cymunedol lleol heb gefnogaeth a/neu addasiadau arwyddocaol i’r gwasanaeth.  Yn draddodiadol mae llawer o awdurdodau lleol wedi ymateb i hyn trwy brynu lleoedd arbenigol “allan o’r ardal”.  Gall y lleoedd hyn ateb anghenion yr unigolyn ond gallant fod ymhell o’u cartrefi.  Gall goblygiadau’r strategaeth hon fod yn arwyddocaol:

Fodd bynnag, mae llawer o gyfleoedd nawr i bobl gydag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol i gael cefnogaeth dda a chael ansawdd bywyd da o fewn eu cymuned lleol trwy ddull person-ganolog.  Amlinellir hyn ym mhennod 6.

Dylai’ch awdurdod lleol fod yn mabwysiadu dull person-ganolog ac felly bod yn barod i ddatblygu gwasanaethau arbenigol lleol neu becyn cefnogaeth i ateb anghenion eich plentyn.  Os y cyfan a gynigir i chi yw lleoliad allan o’ch ardal dylech fod yn barod i herio hyn.