|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

ASTUDIAETHAU ACHOS

ASTUDIAETH ACHOS AARON

Mae Aaron yn bedair ar bymtheg oed, gydag anabledd dysgu cymhedrol a’r hyn a elwir weithiau’n ‘ymddygiad heriol’.  Yn ddiweddar symudodd o ysgol breswyl arbenigol i gartref preswyl bach sy’n arbenigo mewn gofalu am unigolion gydag anghenion cefnogaeth ymddygiad cymhleth.

Cyn symud, bu staff o’r cartref yn ymweld yn rheolaidd ag Aaron yn ei ysgol a buont yn mynychu cyfarfodydd pontio, a ganiataodd iddo ddod i’w hadnabod.  Cytunwyd na fyddai Aaron yn ymdopi’n dda gyda llawer o ymweliadau, felly penderfynwyd y byddai’n ymweld â’i gartref newydd unwaith yn unig, y diwrnod cyn iddo adael yr ysgol, a dilyn hyn gydag ymweliad cartref.  Bu staff yn ei gartref newydd hefyd yn treulio amser yn paratoi’r defnyddwyr gwasanaeth presennol am ddyfodiad Aaron, gan fod hyn bob amser yn gyfnod o gynnwrf ac aflonyddwch iddynt hwy hefyd: mae person newydd yn newid deinamig cartref yn llwyr.

Pan symudodd gyntaf roedd Aaron yn ffonio’i ysgol yn rheolaidd ac yn aml yn cyfeirio at ei dîm staff blaenorol.  Anogwyd hyn, a bu o gymorth i galonogi Aaron tra’n cefnogi ei dîm staff newydd.  Roedd, a mae, cysylltiad â’r teulu’n hollbwysig i Aaron, ac mae’n ffonio ei deulu sawl gwaith y dydd.  Anogir hyn hefyd gan fod ei rieni yn tanategu’r neges mae’r staff yn ei chyflwyno ac maent yn rhoi llawer o gefnogaeth.

Her bersonol fwyaf Aaron yn ystod y cyfnod pontio i wasanaethau oedolion oedd addasu i ddull gwahanol o reoli ymddygiad.  Roedd Aaron wedi arfer â nifer o dechnegau ymddygiadol a ddefnyddiwyd yn ei ysgol breswyl, ac i gychwyn, trosglwyddwyd rhain gydag ef i sicrhau pontio llyfn.  Aeth trwy amser anodd o ran ei ymddygiad wedi’r cyfnod ‘mis mêl’, ond yn y pen draw roedd dull cyson a chadarnhaol yn talu ei ffordd wrth iddo ddod i adnabod ac ymddiried yn ei dîm staff newydd.

Yn ei gartref newydd, a reolir gan Home for Home Care Ltd defnyddir dull rheoli ymddygiad cadarnhaol a di-gosb.  Yr athroniaeth yw helpu’r unigolyn i reoli ei (h)ymddygiad yn fewnol yn hytrach na dibynnu ar ddulliau ‘allanol’ traddodiadol, megis amser-allan a’u gwahardd o weithgareddau.  Mae Aaron yn cael llawer o ganmol pan mae’n rheoli ei ffrwydradau ei hun, ac os yw’r argyfwng yn rhy fawr ac mae’n dychwelyd at ei hen batrymau ymddygiadol, gwelir hyn fel ‘blip’.  Yr hyn sy’n bwysig yw bod Aaron yn teimlo bob pobl yn ei hoffi ac yn ei werthfawrogi ac mae’n gwybod fod y staff yn ei weld ef ac nid yn ei ddiffinio wrth ei ymddygiad anodd.

Mae Aaron wedi trosglwyddo’n llwyddiannus o wasanaethau plant a llymder ffiniau addysgol.  I gychwyn, nid oedd ganddo ddiddordeb mewn mynd i’r coleg oherwydd teimlai ei fod wedi cael digon ar addysg, ond mae nawr yn ystyried ei opsiynau yn y coleg lleol ac mae’n cael asesiad sgiliau cyfrifiadurol. Y dyddiau hyn, anaml yw’r ffrwydradau ymddygiad ac mae ei wenau a’i frwdfrydedd am fywyd yn heintus!

Gyda diolch i: Home from Home Care Ltd
www.homefromhomecare.com

 

ASTUDIAETH ACHOS: ANDREW

Mae Andrew’n ddyn ifanc 20 oed sydd heb fawr o iaith lafar, ond mae’n defnyddio ei arwyddion ei hun i gyfathrebu.  Mae’n ddyn ifanc gweithgar, egnïol gyda llawer o ynni corfforol i’w sbario.  O gymryd y ddeubeth hyn gyda’i gilydd golyga ei fod ambell waith yn teimlo’n rhwystredig iawn.  Mae hyn wedi golygu bod peth o’i ymddygiad wedi herio’r rhai sydd o’i amgylch, i’r graddau iddo gael ei wahardd o’i ysgol arbennig leol ac o ysgol breswyl arbennig.

Roedd Andrew’n 18 oed pan ddaeth adref wedi ei wahardd o’i ysgol breswyl arbennig, heb gynllun pontio wedi ei sefydlu ac heb syniad beth fyddai ei fywyd yn y dyfodol o ran yr awdurdod lleol na’r ysgol

Roedd yn ffodus i gael cefnogaeth penderfynol ei fam, ‘cylch cefnogaeth’ (grwp o ffrindiau a pherthnasau ymroddedig) a staff uwch yn yr awdurdod lleol gyda syniadau newydd ynghylch byw â chymorth, a thaliadau uniongyrchol.  Hefyd roedd ganddo gynllun person-ganolog, a ysgrifennwyd rhyw bum mlynedd ynghynt.

Penderfynodd ‘cylch cefnogaeth’ Andrew i ddod yn ymddirediolaeth bywyd annibynnol i Andrew, a thrafodwyd taliadau uniongyrchol gyda’r awdurdod lleol.  Gyda’i daliad uniongyrchol mae Andrew’n prynu cefnogaeth gan dîm o weithwyr cefnogol, gyda chydlynydd, sy’n rhoi cefnogaeth 2-1 iddo yn y dydd a chefnogaeth 1-1 yn y nos.

Mae Andrew nawr yn byw yn ei dy ei hun, ynghanol cymuned y teimla’n rhan ohoni.  Prynwyd y ty gan Golden Lane Housing Association, y mae gan Andrew ran-berchenogaeth â hwy.

Mae Andrew’n mynd i’r coleg ddwy waith yr wythnos i gael gwersi coginio a cherddoriaeth.  Mae’n aelod o’i ganolfan chwaraeon leol lle mae’n nofio’n rheolaidd, yn cael tylunio wythnosol, ac hefyd yn ymuno â phobl ifanc eraill yng nghlwb ieuenctid y pentref.  Mae’n mwynhau gwneud ffrindiau ac wrth ei fodd yn cyfarch ei gymdogion a phawb yn ei gymuned leol.  Ar ddiwrnod cyffredin fe’i gwelir yn edrych allan o’i ffenestr i gyfarch y dyn post gydag arwydd ‘bawd i fyny’ brwdfrydig.  Efallai bydd wedyn yn cyfarfod â’i frawd sy’n byw lawr y lôn a chymryd y ci am dro dros y caeau.

“Cymerodd dros ddwy flynedd i gyrraedd ond bu’n werth ei wneud,” meddai Jan, mam Andrew. “Mae’r olwg ar wyneb Andrew ran fwyaf nawr yn dweud ‘Rwy’n cael amser gwych’.”

 

ASTUDIAETH ACHOS: LES

Mae gan Les, 47 oed, anabledd dysgu a thueddiadau awtistaidd.  Mae ei sgiliau cyfathrebu ar lafar yn gyfyngedig iawn ond gall fynegi ei deimladau a’i hoffterau.

Aeth Les i ofal llawn amser yn bum mlwydd oed pan gredodd ei rieni, oedd ganddynt bedwar o blant eraill, nad oeddent yn gallu ymdopi â’i ymddygiad.  Treuliodd Les amser ynysig mewn gofal ac mae’n arddangos arwyddion clasurol o sefydliadu.  Tra roedd mewn gofal, nid oedd gan Les reolaeth o gwbl ar ei fywyd ac nid oedd yn gallu dewis beth fyddai ei weithgareddau o ddydd i ddydd.  Nid oedd yn gallu dewis beth i’w fwyta na pha ddillad i’w gwisgo hyd yn oed.  Ni chafodd lawer o ysgogiad ac roedd yr holl weithgareddau mewn grwp gyda defnyddwyr eraill y gwasanaeth oedd yn achosi pryder i Les yn aml.

Flwyddyn yn ôl symudodd Les i’w dy ei hun lle mae’n byw’n annibynnol, gyda chefnogaeth United Response.  Y gwahaniaeth unigol mwyaf ym mywyd Les nawr yw bod ganddo’r gallu i ddewis, a wadwyd iddo cyn hynny.  Mae Les yn ymwneud â chynllunio holl agweddau ei fywyd newydd.  Mae’n mynd i’r coleg ddeuddydd yr wythnos lle mae’n dysgu sgiliau craidd y mae’n eu defnyddio gartref.  Cynigir iddo ddewis eang o weithgareddau yn cynnwys nofio, canolfannau gweithgareddau, clwb cinio, sioeau a chyngherddau, digwyddiadau cerddorol, mynd i’r sinema, y dafarn, sawl disco a chlybiau, amgueddfeydd a lleoedd o ddiddordeb yn yr ardal leol.

Anogir a chefnogir Les i wneud tasgau bob dydd fel siopa, talu biliau, garddio a rhedeg y ty.  Mae ganddo ei ystafell synhwyraidd gartref.  Gall Les ddewis pryd i fynd i’r gwely, i godi, i ddod i mewn, i fynd allan, beth i’w wisgo, beth i’w fwyta, pryd i fwyta, beth i’w wylio ar y teledu, pa gerddoriaeth i wrando arni, ble i fynd a pha mor hir mae am aros.

Nawr mae gan Les lawer mwy o gyswllt gyda’i deulu trwy ymweld â hwy yn eu cartrefi a’u cael hwy i ymweld ag ef.  Mae wedi cael sawl parti lle daeth ei deulu a’i ffrindiau.  Mae Les yn cael pleser amlwg o’r cysylltiad hwn ac mae ei deulu ar ben eu digon gyda’i ddabtlygiad.

Gyda diolch i: United Response
www.unitedresponse.org.uk

 

ASTUDIAETH ACHOS: ANGELA A COLIN

Cysylltodd Angela a Colin, sy’n rieni, â’r CBF i rannu eu profiadau o ddod o hyd i ofal oedolion ar gyfer eu mab, sydd ag anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol.

“Rydym bob amser wedi credu bod gan ein mab yr hawl i fywyd llawn, yn union fel ni, ond rydym wedi trio llawer o fathau gwahanol o ysgolion preswyl, cartrefi gofal, a darparwyr a’u cael i gyd yn anfoddhaol.  Ein mab ni oedd yn cael y bai os oedd pethau’n mynd o chwith ac fe’i symudwyd o un darparwr i un arall.

“Roeddem yn gwybod am Daliadau Uniongyrchol ond roeddem yn ansicr ynghylch y gwaith a’r cyfrifoldebau.  Yn y pen draw daethom i sylweddoli bod yr holl ymdrech a chefnogaeth roeddem yn ei roi i’r gwahanol wasanaethau yn gwneud dim gwahaniaeth.  Nid oedd y straen a’r euogrwydd a deimlem yn ein helpu ni na’n mab.

“Felly fis Hydref diwethaf cynorthwyon ni ein mab i sefydlu Gwasanaeth Taliadau Uniongyrchol.  Mae hyn wedi cynhyrchu gwaith a chyfrifoldebau oedd yn ein profi ni ar brydiau.  Nawr rydym yn gyfrifol am recriwtio staff, hyfforddi staff, talu cyflogau, lles staff, ei denantiaeth a chynnal a chadw ei gar, i enwi ond ychydig!

“Ond ynghynt, pan oedd pethau’n mynd o le, anwybyddwyd problemau, goddefwyd camdrin, ein mab oedd yn cael y bai ac yn cael ei gosbi’n aml am gamgymeriadau’r staff neu ddifyg cynllunio.  Doedd ganddo ddim llais ac wrth gwrs roeddem ni’n cael ein barnu fel rhieni emosiynol ac ymyrgar.  Nawr mae hyn oll wedi newid.  Mae llais gan ein mab, ac rydym yn delio gyda phroblemau wrth iddynt godi.  Mae ganddo ei gartref ei hun, car, tîm staff a bywyd llawn.  Mae wedi’n helpu ni i werthfawrogi beth mae ef am ei wneud bob dydd.  O ganlyniad, mae ei gynllun gweithgareddau’n cynnwys bowlio deg, nofio, ymweliadau â’r Jacuzzi, teithiau i’r traeth, i ddigwyddiadau lleol, cyngherddau pop, gwyliau a llawer mwy. A dyfalwch beth – ymddygiad llawer llai heriol!

“Rydym wedi gweld ei hyder yn cynyddu ac mae’n gwenu eto, ac yn dewis.  Mae wedi bod yn llwybr anodd o ddysgu i ni a’r staff ond mae’r canlyniadau wedi bod yn llawer gwell na’n disgwyliadau.  Mae ein mab yn parhau i’n syfrdanu ni a’r staff yn ddyddiol.

“O’r diwedd mae ganddo fywyd – dim gwasanaeth yn unig!  Mae ein mab nawr yn ei dridegau cynnar.  Rydym ond yn edifar na wnaethom hyn yn llawer cynt.”

 

ASTUDIAETH ACHOS: DANIEL

Mae Daniel yn 21 oed ac yn mynychu coleg Addysg Bellach prif-ffrwd.  Mae’n rhannu ty gyda thri myfyriwr arall.

Mae’r bywyd hwn, sy’n ymddangos mor gyffredin, mewn gwirionedd yn cynrychioli cyflawniad mawr, oherwydd roedd y pedwar myfyriwr, cyn hyn, wedi’u lleoli mewn gwasanaeth preswyl allan o’u hardal, a Daniel felly ers iddo fod yn naw oed.

Mae gan y pedwar sy’n rhannu’r ty anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol.  Dewiswyd ty digon mawr i roi digon o le i bob un ohonynt.  Addaswyd y ty i weddu i’w hanghenion penodol, gyda dodrefn a mân daclau diogel na ellir eu dinistrio, tra mae ar yr un pryd yn ymddangos mor gyffredin â phosibl.  Dewisodd Daniel ei ystafell ei hun a’r cynllun lliw.  Mae’r ty ei hun mewn stryd breswyl gyffredin, gyda gardd fawr wedi ei chuddio o olwg y cymdogion.  Mae staff gofal yn rhoi cefnogaeth rownd y cloc gyda gofal 1-1 yn ystod y dydd.

Yn ystod yr wythnos mae Daniel yn mynychu’r coleg Addysg Bellach lleol, sydd hefyd wedi addasu rhai o’r ystafelloedd dosbarth i greu amgylchedd briodol.  Mae’r myfyrwyr yn dilyn cwricwlwm wedi ei gynllunio’n arbennig.  Mae’r staff gofal a staff yr ysgol yn cwrdd yn rheolaidd i sicrhau eu bod oll yn gweithio i amcanion a gytunwyd arnynt.

Pan nad yw yn y coleg, bydd Daniel yn mynd i siopa, i glybiau nos, i nofio neu i gymryd rhan mewn gweithgaredd ‘gyffredin’ arall.  Mae ei deulu’n byw tua dwy filltir i ffwrdd ac maent yn aml yn galw draw i weld Daniel ar y penwythnosau neu i’w gasglu os ydynt yn mynd allan gyda’i gilydd.

Bu ei fam yn ymgyrchu am ddeng mlynedd i gael gwasanaeth lleol arbenigol ac yn y pen draw cafodd lwyddiant yn dilyn ei gwaith caled a’i dyfalbarhad.

“Mae’r cyfleoedd a’r math o fywyd sydd gan Daniel heddiw yr un fath â’r rhai mae ei chwiorydd yn ei fwynhau.  Dyna’r cwbl rydw i eisiau i fy mab – ni ddylai fod yn amhosibl.”