|skip to navigation |skip to page content|
Welcome to
The Challenging Behaviour Foundation Website
making a difference to the lives of people with severe learning disabilities
Registered charity no. 1060714
Images of children with severe learning disabilities

BLE I GYCHWYN?

Tra bo rhai teuluoedd yn teimlo’n nerfus a heb gefnogaeth digonol wrth iddynt feddwl am opsiynau’r dyfodol ar gyfer eu meibion neu eu merched, mae torreth o wybodaeth ar gael – dim ond i chi wybod ble i edrych!

Diben y pecyn hwn yw rhoi gwybodaeth sy’n benodol i anghenion teuluoedd sy’n gofalu am unigolion gydag anableddau dysgu difrifol a ddisgrifir fel unigolion ag ymddygiad heriol. Gobeithir y bydd yn darparu teclynnau y bydd ar y teuluoedd eu hangen wrth iddynt gychwyn cynllunio ar gyfer cefnogaeth a chyfleoedd yn y dyfodol i’w meibion a’u merched, yn cynnwys addysg, tai, cyflogaeth ac ymrwymiad yr unigolyn yn y gymuned.

Am fwy o wybodaeth gyffredinol ar gyfer teuluoedd sy’n wynebu symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion rydym yn awgrymu’r mannau cychwyn hyn: 

  • Preparing for adult life & transition: Taflen ffeithiol wedi ei chynhyrchu gan Contact a Family. Ewch i www.cafamily.org.uk/transition.html, ffôn 029 2039 6624 neu ebostiwch wales.office@cafamily.org.uk
  • Gyrfaoedd Cymru: ewch i www.careerswales.com neu ffoniwch am ddim 0800 100900
  • Transition Information Network: “My future choices” (cylchgrawn am ddim) a gyhoeddir dair gwaith y flwyddyn.  Ffôn 0207 843 6313 neu ebostiwch tin@ncb.org.uk new ewch i www.transitioninfonetwork.org.uk
  • Progress Magazine: cylchgrawn 60 tudalen am ddim sy’n “cynorthwyo cynllunio cadarnhaol ar gyfer eich opsiynau pontio”.  Ewch i www.progressmagazine.co.uk. Ar gael gan eich gwasanaeth Partneriaeth Rhieni lleol (ffôn 0207 843 6058) Mencap (ffôn 0808 808 1111) neu Contact a Family (ffôn 0808 808 3555)

Byddem yn dweud un peth wrth bob rhiant: nid yw byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am yr opsiynau ar gyfer eich mab neu’ch merch, yn enwedig os oes ganddynt anableddau dysgu difrifol ac ymddygiad heriol.

Gobeithiwn bydd yr wybodaeth yn y pecyn hwn o gymorth. Byddem yn falch pe baech yn cwblhau’r ffurflen adborth gyda sylwadau / awgrymiadau oherwydd bydd hyn yn ein helpu ni i wella a datblygu’r wybodaeth a ddarparwn.